CYFEILLION AMGUEDDFA PARC HOWARD LLANELLI

AMDANOM NI

Agorwyd drysau Amgueddfa Parc Howard yn 1912. Mae’r adeilad Victorianaidd yn esiampl dda o adeilad yn y ffurf eidaledd o’r 1880au, gan amlygu sawl nodwedd gwreiddiol. Heddiw mae gan yr amgueddfa gasgliad arbennig o greiriau yn perthyn i hanes Llanelli. Mae ‘r casgliad mwyaf o grochenwaith Llanelli I’w weld, yn ogystal ac ystod o ddarluniau arbennig.

Mae sefydliad y Cyfeillion wedi bod mewn bodolaeth ers 1995, sefydlwyd gyda’r nôd o godi ymwybeddiaeth yn hanes Llanelli. Hoffem hefyd ddenu mwy o bobl i ymweld a Parc Howard drwy gynnal sgyrsiau a digwyddiadau, megis ein prynhawn canu carolau y Nadolig.

Mae ein llwyddiant yn codi arian wedi caniatau i ni gefnogi’r amgueddfa. ‘Rydym wedi gallu achub delweddau o fragdy Buckley’s, yn ogystal ac arwydd Teiars Stepney a cadair Eisteddfod Llanelli 1896.

Mae Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli yn falch o’r gwellianau diweddar i Parc Howard. ‘Rydym yn un o’r cyrff sydd yn rhan o’r ymgynghoriad ynglyn a gwellianau pellach ym Mharc Howard.

                 Y Foneddiges Stepney

 

Mae ein gweithgareddau codi arian wedi ein galluogi i gyfrannu £3,750 tuag at gwaith cadwraeth ar gyfer portread yr amgueddfa o’r Foneddiges Euphemia Stepney. Hefyd ‘rydym wedi ariannu prynu dau ddarn prin o grochenwaith Llanelli, sef plât bach i weini cocos a cwpan wŷ gyda patrwm Colandine. Llestr a ddefnyddir yn ddyddiol yw’r cwpan wŷ, a prin yw’r rhai sydd wedi goresgyn. Rydym yn falch o’i arbed ar gyfer Llanelli.

 

 

 

 

Cwpan wŷ a wnaethpwyd yng Ngrochendy Llanelli.

Ymuno a Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli

Ein pris aelodaeth cyfredol yw:

Aelodaeth blynyddol £7.50

Aelodaeth teuluol blynyddol £10

Aelodaeth am oes £50

Mi fydd aelodau yn derbyn gwahoddiad i sgyrsiau a gweithgareddau yn ogystal a diweddariadau ynglyn a gwaith y cyfeillion.

Cysylltwch a ni i dderbyn ffurflen gais drwy e-bost.

 

 

 

Privacy Statement: Your information will be processed by the Friends of Parc Howard Llanelli Museum. It will be used for membership administration and to send you information about the Friends of Parc Howard Llanelli Museum and their events. We will not disclose your information to anyone unless you ask us to.

I/We consent to the Friends of the Friends of Parc Howard Llanelli Museum obtaining and holding my/our personal data as defined under the GDPR and the data in accordance with the term of the Regulation and the Constitution and Rules of the Friends.

 

 

Create Your Own Website With Webador